Tri deg mlynedd yn ol, ym mis Mawrth 1989, ysgrifennodd Tim Berners-Lee ei syniadau am greu we fyd eang.
Ymunwch efo ni yn Llyfrgell Y Rhyl i gofio llyfrau a digwyddiadau’r degawd olaf cyn i dechnoleg newid y byd am byth.
Tri deg mlynedd yn ol, ym mis Mawrth 1989, ysgrifennodd Tim Berners-Lee ei syniadau am greu we fyd eang.
Ymunwch efo ni yn Llyfrgell Y Rhyl i gofio llyfrau a digwyddiadau’r degawd olaf cyn i dechnoleg newid y byd am byth.
18fed Rhagfyr 2.00yh
Ysbryd yr Oes gan Mari Williams
Nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2018. Nofel ddramatig am ddau John a’r stori’n symud yn ôl ac ymlaen ar wib rhwng y gorffennol a’r presennol; John Penry, y merthyr Piwritanaidd, a John Williams, athro Hanes mewn ysgol gyfun Gymraeg yng Nghaerdydd heddiw.
Mae teimlad Nadoligaidd ymysg Grŵp Darllen Llyfrgell Rhuthun pan maent yn cwrdd ar 12 Rhagfyr am 7:30pm. Llyfr y mis hwn yw A Winter Book gan Tove Jansson.
Wedi’i ysgrifennu o brofiadau yn ystod ieuenctid a henaint, ac yn cwmpasu’r 20fed ganrif, mae’r detholiad hwn wedi’i gyfieithu yn arddangos rhyddiaith Tove Jansson, llawn mewnwelediadau a gwirionedd.
Archebwch yma> Llyfr
Bydd Ann Jones AC yn cynnal ei chymhorthfa nesaf yn Llyfrgell Prestatyn, 7fed Rhagfyr, 4.00 – 5.00 ac yn Y Rhyl ar 8fed Rhagfyr am 10.00 – 11.00.
I drefnu apwyntiad, ffoniwch 01745 332813.
Bydd Grwp Darllen “Llyfr a Llymed” yn cyfarfod yn llyfrgell Rhuthun ar 26ain Tachwedd am 7.30pm. Llyfrau y mis yw:
Cysgodion Cam – Ioan Kid
Mae’n 1969 ac mae Gwyn Philips ar drothwy byd oedolion. Mae’n flwyddyn fawr a Chymru’n newid, ond mae Gwyn yn barod i gofleidio pob newidiad. Cyfarfod damweiniol ond ysgytwol, 50 mlynedd yn ddiweddarach, sy’n hyrddio fe’n ôl i ganol sgandal, twyll a chyfrinachau.
a
Fel Edefyn Gwe – Siân Rees
Dyddiau ysgol… dyddiau gorau bywyd? Wrth deithio i fyny’r A470 i aduniad ysgol, tydi Megan ddim yn siwr iawn beth i’w ddisgwyl. A ffrindiau bore oes bellach ond yn ddieithriaid sy’n rhannu rhai o’r un atgofion, oni fyddai’n well iddi droi yn ôl am Gaerdydd? Ond ar y llaw arall, mae’n ysu i glywed mwy am amgylchiadau marwolaeth un o’i chyn-athrawon…
Archebwch yma> Cysgodion Cam | Fel Edefyn Gwe (llyfr) | Fel Edefyn Gwe (CD) | Fel Edefyn Gwe MP3
Tachwedd 20fed, 2.00yh
Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018
Cyfrol yn cynnwys beirniadaethau a chyfansoddiadau llenyddol buddugol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, ynghyd â beirniadaethau’r cystadlaethau cartref eraill.