Dathlu Wythnos Llyfrgelloedd yn Sir Ddinbych

Wythnos Llyfrgelloedd 2017Mae Wythnos Llyfrgelloedd 9-14 Hydref yn gyfle i ddarganfod yr amrywiaeth o bethau gallwch ei wneud yn eich llyfrgell, o chwarae a dysgu i blant, rheoli eich iechyd, cael mynediad i wifi a’r we, dod o hyd i swydd, diddordeb neu gychwyn busnes. Dyma’r dathliad blynyddol o’r holl weithgareddau creadigol, arloesol ac amrywiol sy’n cael eu cynnig gan lyfrgelloedd y DU.

Yn ogystal â’r holl wasanaethau a gweithgareddau arferol, mae’r digwyddiadau arbennig hyn wedi eu trefu yn Sir Ddinych ac mae gwahoddiad cynnes i bawb alw mewn:

Dydd Llun Hydref 9fed
Ymweliad â Llyfrgell Prestatyn gan yr awdur i blant a phobl ifanc Phil Earle
Bore a phnawn: digwyddiadau ar gyfer disgyblion Ysgol Uwchradd Prestatyn ac Ysgol Glan Clwyd

Noson yng nghwmni yr awdur Phil Earle yn Llyfrgell Prestatyn am 7.00pm
Tocynnau £3, am ddim i pobl ifanc dan 18 oed
http://www.philearle.com

Dydd Mawrth Hydref 10fed
Ffair Iechyd a Lles yn Llyfrgell y Rhyl 10am-4pm
Dewch i gwrdd gyda grwpiau a chymdeithasau all eich helpu a chefnogi eich iechyd a’ch lles yn y gymuned

Ymysg y gwasanaeth fydd yn y Ffair mae Pwyntiau Siarad, OPUS, British Heart Foundation Cymru, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Cymdeithas Alzheimers, Gwasanaeth Llyfrgell i’r Caeth i’w Cartref, Coleg Llandrillo, a Gofal a Thrwsio Sir Ddinbych

Dydd Mercher Hydref 11eg
Darganfod y Digidol: sesiwn galw mewn yn Llyfrgell Dinbych 2.30-4.30
Cyfle i ddarganfod yr holl adnoddau digidol sydd ar gael am ddim i aelodau llyfrgell

Dydd Iau Hydref 12fed
Darganfod y Digidol: sesiwn galw mewn yn Llyfrgell Rhuthun 2.30-4.30
Cyfle i ddarganfod yr holl adnoddau digidol sydd ar gael am ddim i aelodau llyfrgell. Paned a chacen i nodi 25 mlynedd ers i Lyfrgell Rhuthun symud i’r adeilad presennol.

Amser Rhigwm Dechrau Da gyda’r Arth Mawr Glas
Sesiwn rhigwm a chanu Dechrau Da gyda ymddangosiad arbennig gan yr Arth Mawr Glas!
Llyfrgell y Rhyl 9.30 (0-4 oed) neu 11.00 (babis dan 1 oed)
Llyfrgell Prestatyn 1.30 (0-4 oed)

 

Advertisements
Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Llyfrgell Rhuthun, Llyfrgell Y Rhyl, Llyfrgell+ Prestatyn, Newyddion a'i dagio yn , , , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s