Ruthin Library Reading Group, 13/9/17, 7.30

The Shipping NewsThe Shipping News – Annie Proulx

Mae Quoyle, newyddiadurwr di-nod, yn cael ei rwygo’n ddisymwth o’i fywyd beunyddiol pan gaiff ei wraig anffyddlon ei lladd. Mae modryb Quoyle yn ei argyhoeddi y dylai o a’i ddwy ferch emosiynol fregus ddychwelyd gyda hi i dirwedd arfordirol llwm eu cartref cyndadol yn Newfoundland. Yma, yn niffeithwch Quoyle’s Point, mewn tŷ sy’n wag ar wahân i ambell atgof o orffennol annymunol, mae aelodau tair cenhedlaeth yn ceisio creu bywydau newydd. Wrth i’r gaeaf di-ben-draw gau ei enau iâ amdanynt, mae pob aelod o’r teulu yn wynebu eu dieifl eu hunain ac yn profi trychineb a mân orfoledd am yn ail yng nghwmni’r Mavis Bangs sycoffantaidd; Diddy Shovel y dyn cryf; Herald Prowse a foddodd ; Beety’r troellwr ffyn; Nutbeem, sy’n dwyn newyddion tramor oddi ar y radio; cefnder gorffwyll y mae’r fodryb yn gwrthod ei gydnabod; Wavey dawel a’r hen Billy Pretty a’i sach o gyfrinachau. Erbyn dyfodiad stormydd y gwanwyn mae Quoyle wedi dysgu sut i ddiberfeddu penfreision, dianc o bot picl a chlymu cwlwm cariadon go iawn.

Archebwch yma> Llyfr | Llyfr Llafar | Print Bras | E-Lyfr

Advertisements
Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Grŵpiau Darllen, Llyfrgell Rhuthun a'i dagio yn , , , , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s