Ruthin Library Reading Group – 10fed Mai, 7.30

The MuseThe Muse – Jessie Burton

Gall darlun gelu straeon fyrdd ………… ar ddiwrnod poeth o Orffennaf ym 1967, mae Odelle Bastien yn dringo’r grisiau cerrig sy’n arwain at oriel gelf Skelton yn Llundain gan wybod fod ei bywyd ar fin newid am byth. Wedi’i chael yn anodd ymgartrefu yn y ddinas ers iddi gyrraedd yno o Drinidad bum mlynedd yn ôl, mae hi wedi cael cynnig swydd fel teipydd o dan hyfforddiant y gyfareddol ac enigmatig Marjorie Quick. Ond er i Marjorie ddechrau ymddiried yn Odelle a datgloi potensial nad oedd yn ymwybodol ohono, mae’r wraig yn ddirgelwch o hyd – a hynny fwy fyth pan ddanfonir i’r oriel ddarlun gwerthfawr ag iddo hanes cudd sydd wedi bod ar goll ers amser maith. Mae’r gwir am y darlun yn mynd yn ôl i 1936, i dŷ mawr yng nghefn gwlad Sbaen lle mae Olive Schloss, merch deliwr celf enwog, yn coleddu ei huchelgeisiau ei hun. I’r baradwys fregus hon daw artist a chwyldröwr, Isaac Robes a’i hanner chwaer Terese; mae’r ddau’n llwyddo i ennill ffafr y teulu ond gyda chanlyniadau ffrwydrol a dinistriol…….. hudolus, cyffrous, llawn tensiwn, mae The Muse yn nofel am ddyheadau a hunaniaeth, cariad ac obsesiwn, gwirionedd a thwyll – campwaith godidog a stori fythgofiadwy.

Archebwch yma> Llyfr | Print Bras | Llyfr Llafar | E-lyfr | E-Lyfr Llafar

Advertisements
Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Grŵpiau Darllen, Llyfrgell Rhuthun a'i dagio yn , , , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s