Cylch Darllen y Dysgwyr – Llyfrgell Rhuthun, Hydref 28ain

CraciauLlyfr y mis yw Craciau gan Bet Jones,

Dydd Llun, 30 Mawrth, 4.35 a.m.

Cysgai’r rhan fwyaf o boblogaeth y dref a’r ardal gyfagos gwsg diofal yn eu gwlâu – oddeutu chwe mil ohonynt, yn ddynion, merched a phlant.

Yng nghanol Cors Ddyga roedd gweithwyr y shifft nos ar y safle ffracio yn ddiwyd wrth eu gwaith.

Yn ddirybudd, daeth ochenaid ddofn o grombil y ddaear.

Mae craciau’n ymledu o dan y ddaear ar ôl y daeargryn ar Ynys Môn. Mae craciau ar hyd yr wyneb hefyd.

Daw gofid newydd i ran Idris, ffermwr sy’n byw i sicrhau bod ei wraig yn cael y morffin sydd ei angen arni. Wrth iddi lithro i mewn ac allan o’r byd hwn, a fydd hi’n llwyddo i rannu ei chyfrinach olaf ag ef?

Mae craciau’n ymddangos ym myd Eileen wrth iddi gymryd awenau archfarchnad Alda. Ond a fydd hi’n cael siâp ar Siôn, y llipryn diog, a Kelly, merch ifanc y mae mwy iddi na’i chartre ym mloc fflatiau Maes y Dref?

A beth am Haydn? Manteisio ar y craciau y mae ef ac yntau ar fin dechrau ar ei dymor fel maer.

Nofel gyffrous, llawn digwyddiadau dramatig sy’n codi cwestiynau am effaith rhai prosiectau ynni ar yr amgylchfyd.

Archebwch yma> Llyfr | Llyfr Llafar | E-lyfr

Advertisements
Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Grŵpiau Darllen, Llyfrgell Rhuthun a'i dagio yn , , , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s