Ruthin Library Reading Group – 14 Medi, 7.30

Eleanor MarxBydd Grŵp Darllen Llyfrgell Rhuthun yn cyfarfod eto ar 14 Medi am 7.30pm. Y mis hwn byddant yn trafod Eleanor Marx gan Rachel Holmes.

Ddim yn gadael i gonfensiwn ei dal yn ôl, gyda chalon fel llew, ac yn rhydd, roedd Eleanor Marx (1855-1898) yn ddynes eithriadol. Ei chyfieithiad hi oedd y cyfieithiad Saesneg cyntaf Mme Bovary Flaubert. Arloesodd theatr Henrik Ibsen. Hi oedd y ddynes gyntaf i arwain undebau llafur gweithwyr dociau a gweithwyr nwy Prydain. Am flynyddoedd bu’n gweithio’n ddiflino i’w thad, Karl Marx, fel ysgrifennydd personol ac ymchwilydd. Yn ddiweddarach, golygodd lawer o’i weithiau gwleidyddol allweddol, a gosod y sylfeini ar gyfer ei gofiant. Ond yn bennaf ymhlith ei llwyddiannau oedd ei ffeministiaeth arloesol. Iddi hi, roedd cydraddoldeb rhywiol yn rhag-amod angenrheidiol ar gyfer cymdeithas gyfiawn.

Gan dynnu nerth oddi wrth ei theulu a’u cylch eang, gan gynnwys Friedrich Engels a Wilhelm Liebknecht, aeth Eleanor Marx ati i wneud gwahaniaeth – ei hoff arwyddair oedd: ‘Amdani!’ Gyda’i ffrindiau agosaf – yn eu plith, Olive Schreiner, Havelock Ellis, George Bernard Shaw, Will Thorne a William Morris – hi oedd uwchganolbwynt sosialaeth Prydain. Hi hefyd oedd yr unig un o’r teulu Marx i nodi ei gwreiddiau Iddewig. Ond roedd ei bywyd yn cynnwys tristwch dwfn: roedd yn caru dyn anffyddlon ac anonest, yr academydd, actor a dramodydd Edward Aveling. Ond er gwaethaf yr anhapusrwydd a ddaeth iddi, wnaeth bywyd gwleidyddol Eleanor Marx erioed simsanu, bu’n ymgyrchu a threfnu’n ddi-baid nes ei marwolaeth annhymig, sydd – gyda’i lythyrau, cymynroddion, cyfrinachau a thadolaeth cudd – yn darllen yn rhannol fel nofel gan Wilkie Collins, ac yn rhannol fel y drasiedi fodern a oedd.

Mae Rachel Holmes wedi mynd yn ôl at ffynonellau gwreiddiol i adrodd hanes y wraig a wnaeth fwy nag unrhyw un arall i drawsnewid gwleidyddiaeth Prydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nad oedd ofn byw i’r croesebau

Advertisements
Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Grŵpiau Darllen, Llyfrgell Rhuthun a'i dagio yn , , , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s